Skip to content

Telerau ac Amodau – Gŵyl Fel ‘Na Mai

Gwerthir pob tocyn yn amodol ar yr amodau ac unrhyw reolau a rheoliadau eraill y cyfeirir atynt yma neu a all fod yn berthnasol i’r Ŵyl ar unrhyw adeg. Mae prynu neu feddu ar docyn yn gyfystyr â derbyn yr amodau.

CYFFREDINOL

Dylai pob oedolyn ddal tocyn ‘Oedolyn’.

Dylai ieuenctid rhwng 14 a 18 oed gael tocyn ’14-18′.

Dylai plant rhwng 8 a 13 oed gael tocyn ‘8-13’.

Mae plant o dan 8 oed (0-8 oed) yn cael mynediad am ddim, ond rhaid i ddeiliad tocyn dros 18 oed fod yn gyfrifol amdanynt drwy’r amser.

Ar ôl eu prynu, ni ellir ad-dalu na dychwelyd tocynnau oni bai bod y digwyddiad yn cael ei ganslo.

Mae gennym yr hawl i beidio â derbyn mynychwyr i’r safle neu fynnu eich bod yn gadael y safle os nad oes gennych docyn, neu:

• os yw’r tocyn eisoes wedi’i ddefnyddio gan rywun arall

• wedi’i brynu gan ail-werthwr anawdurdodedig, neu’n ffug

• wedi gorfeddwi neu o dan ddylanwad cyffuriau 

• yn peri risg i ddiogelwch pobl eraill neu weithrediad diogel yr Ŵyl 

• yn ymddwyn yn amhriodol mewn ffordd sy’n achosi neu’n debygol o achosi diflastod neu loes i eraill 

Peidiwch â phrynu tocynnau gan fasnachwyr stryd anghyfreithlon. Nid oes unrhyw sicrwydd o ddilysrwydd tocynnau oni bai eu bod yn cael eu prynu gan asiantau tocynnau swyddogol ar gyfer y digwyddiad.

Tra y byddwch ar y safle rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd rhesymol a roddir i chi gan drefnwyr yr Ŵyl a’r Staff Diogelwch.

Ni fydd unrhyw ymddygiad ymosodol neu sarhaus a gyfeirir at ein staff neu fynychwyr eraill yr Ŵyl yn cael ei oddef.

Ni chaniateir ysmygu na defnyddio e-sigarenau ar y safle. Mae Gŵyl Fel ‘Na Mai yn cadw’r hawl i wahardd unrhyw berson a ganfyddir yn ysmygu ar y safle, heb ad-daliad.

Ni chaniateir anifeiliaid ar safle’r Ŵyl ac eithrio cŵn cymorth cofrestredig neu gŵn cefnogaeth emosiynol.

Dim ond alcohol a brynir yn y bar y gellir ei yfed ar y safle.

Mae’r Ŵyl yn gweithredu bar trwyddedig ac mae angen i chi fod dros 18 oed i brynu alcohol. Sylwch, os ydym yn meddwl eich bod yn edrych yn 25 oed neu’n iau, efallai y gofynnir i chi ddarparu prawf oedran ac os na allwch wneud hynny ni fydd alcohol yn cael ei weini i chi.

Mae’n bosib y gofynnir i fynychwyr yr Ŵyl ddangos cerdyn adnabod er mwyn profi eu hoed. Bydd band garddwrn penodol i bawb dros 18 er mwyn cael prynu alcohol.

Bydd unrhyw un o dan 18 oed sy’n cael ei ddal yn yfed neu sydd ag alcohol yn ei feddiant yn cael yr alcohol wedi ei gymryd oddi wrthynt a phosibilrwydd o gael ei daflu allan o’r safle heb unrhyw ad-daliad.

Gofynnwn yn garedig i chi waredu eich sbwriel yn y biniau a ddarperir.

Mae posibilrwydd y bydd cerddoriaeth a synau uchel yn digwydd yn yr Ŵyl, yn ogystal â strôb, goleuadau ac effeithiau arbennig eraill fel goleuadau fflachio, delweddau sy’n newid yn gyflym a defnydd o niwl a mwg.

Mae’n rhaid i blant gael eu goruchwylio gan eu rhieni / gwarcheidwaid bob amser.

Nid ydym yn derbyn unrhyw ddyletswydd gofal nac atebolrwydd rhiant neu oruchwylio ar gyfer unrhyw rai dan 18 oed ar y safle.

Mae gan y trefnwyr hawl i ofyn i Swyddogion Diogelwch archwilio eich bag os ydynt yn amau eich bod yn cario alcohol, cyffuriau neu arfau.

Mae’n bosibl y bydd unrhyw gerbydau nad ydynt yn cael eu clirio oddi ar y safle erbyn 12.00 ar y dydd Sul yn dilyn y digwyddiad yn cael eu cludo i ffwrdd ac efallai y byddwn yn codi swm rhesymol arnoch i dalu ein costau cyn i’ch car gael ei ryddhau i chi.

Bydd Gŵyl Fel ‘Na Mai yn tynnu lluniau a/neu ffilmio yn y digwyddiad. Gellir defnyddio’r delweddau hyn yn y ffyrdd canlynol:

• Cyhoeddusrwydd printiedig yr Ŵyl

• Cyhoeddusrwydd ar-lein yr Ŵyl (gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol.

• Eu rhannu â sefydliadau trydydd parti i’w ddefnyddio i hyrwyddo’r Ŵyl

Cânt eu storio’n ddiogel ac ni chânt eu cadw am fwy o amser nag sydd eu hangen at y dibenion a restrir uchod.

Os byddai’n well gennych i chi neu’ch plentyn beidio â chael eich llun wedi ei thynnu na’ch ffilmio, cysylltwch ag aelod o staff ar y safle neu e-bostiwch: helo@felnamai.cymru

Os hoffech weld eich lluniau neu os hoffech i ni eu dileu, cysylltwch â: helo@felnamai.cymru

Gall fod criw ffotograffiaeth neu ffilmio arall sydd wedi’u cymeradwyo ar y safle. Siaradwch â’r criw yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw bryderon neu os byddai’n well gennych i chi neu’ch plentyn beidio â chael eich llun wedi ei thynnu na’ch ffilmio.

Mae Gŵyl Fel ‘Na Mai yn cadw’r hawl i newid rhaglen yr Ŵyl, heb roi gwybod ymlaen llaw. Ni roddir ad-daliadau os caiff y rhaglen ei newid neu os nad yw artist penodol yn ymddangos, gan gynnwys y prif artistiaid.

Mae Gŵyl Fel ‘Na Mai yn cadw’r hawl i orfodi unrhyw un i adael  neu wrthod mynychwyr heb roi ad-daliad iddynt.

Os yw unrhyw un o’r telerau ac amodau hyn yn aneglur, cysylltwch â ni.

TOCYNNAU CYNTAF I’R FELIN

Nifer cyfyngedig o docynnau ‘Cyntaf i’r Felin’ sydd ar gael.

Daw’r cynnig hwn i ben am 23:55, Chwefror 7fed, 2025, neu unwaith y bydd pob tocyn ‘Cyntaf i’r Felin’ wedi gwerthu allan, pa un bynnag ddaw gyntaf.

Mae gostyngiad o £2 ar Docynnau Cyntaf i’r Felin.

Prisiau tocynnau Cyntaf i’r Felin:
Oedolyn – £23 + ffioedd archebu
14-18 – £18 + ffioedd archebu

Prisiau Cyffredinol:
Oedolyn – £25 + ffioedd archebu
14-18 – £20 + ffioedd archebu

Y ffi archebu yw £0.75 am bob tocyn Oedolyn a 14-18, a £0.50 am bob tocyn 13-18.

Mae Gŵyl Fel ‘Na Mai yn cadw’r hawl i dynnu unrhyw gynnig yn ôl ar unrhyw adeg.

CYSTADLEUAETH FACEBOOK / INSTAGRAM
Mae’r gystadleuaeth hon yn rhedeg o 06.01.25 – 23:59 17.01.25.
I fod yn gymwys, rhaid i chi rannu’r post a thagio 3 ffrind, a chofrestru i’n cylchlythyr (os nad ydych wedi eisioes): https://felnamai.cymru/cylchlythyr/
Rhaid i’r enw a ddefnyddir i gofrestru ar gyfer y cylchlythyr fod yr un enw a ddefnyddir ar eich cyfrif Facebook / Instagram.
Y gwobr yw 2 docyn i Ŵyl Fel ‘Na Mai 2025.
Dewisir yr enillydd ar hap a chysylltir â nhw drwy e-bost neu Facebook / Instagram.
Nid yw’r gystadleuaeth hon yn gysylltiedig â Facebook na Instagram.

BWS –  TOCYN AM DDIM

Gall unrhyw un sy’n trefnu bws i’r ŵyl fod yn gymwys i gael tocyn am ddim.

Rhaid bod gan y bws o leiaf 15 o ddeiliaid tocynnau (oedolion £25 neu 14-18 £20)

Rhaid i chi gysylltu â ni cyn trefnu’r bws i ddilysu argaeledd tocynnau.

Rhaid i chi roi eich enw i ni – bydd y tocyn yn cael ei gadw yn y swyddfa docynnau / mynedfa o dan eich enw chi, neu ei e-bostio cyn y digwyddiad. Efallai y bydd angen cerdyn adnabod.