Skip to content

Noddi

Hoffech chi noddi un o ddigwyddiadau Fel ‘Na Mai?

Mae Fel ‘Na Mai yn chwilio am noddwyr i gefnogi ein digwyddiadau cymunedol sy’n hybu ein hiaith a’n diwylliant.

Mae’r Gŵyl Fel ‘Na Mai yn cael ei chynnal yn flynyddol ar ddechrau mis Mai ac yn llwyddo i ddenu dros 1000 o bobol leol o bob oed, ynghyd â chynulleidfa o Gymru ben baladr. Gwahoddir nifer o artistiaid mwyaf y sîn gerddoriaeth yng Nghymru a rhoddir llwyfan i dalentau lleol i berfformio yn ogystal. Ynghyd â threfnu arlwy o gerddoriaeth, darperir gweithgareddau lu i blant o bob oed a phobl ifanc a gofynnwn i sefydliadau lleol ynghyd â chwmnïau busnes i helpu gyda’r ddarpariaeth amrywiol. Gyda’ch cefnogaeth a nawdd bwriadwn barhau i gynnal yr Ŵyl yn llwyddiannus am flynyddoedd i ddod.

Er mwyn rhoi anogaeth a hwb i bobol ifanc trefnir cystadleuaeth i unigolion a bandiau newydd ar ddydd miwsig Cymru ym mis Chwefror a bydd yr enillwyr yn cael cyfle i berfformio ar un o lwyfannau’r Ŵyl, ynghyd â gwyliau cerddorol eraill lleol. Cynhelir y gystadleuaeth yn flynyddol er cof am Richard a Wyn, y ddau frawd talentog o’r band Ail Symudiad a Kevin Davies o Gwmni recordio Fflach.

Mae gweithgareddau Gwerin Fel ‘Na Mai yn digwydd yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Y bwriad a’r nod yw codi yr hen draddodiadau trwy gynnal sesiynau o ganu a jamio mewn lleoliadau yn y gymuned eang. Ni chodir tâl mynediad am y sesiynau hyn. Unwaith y flwyddyn gwahoddir artistiaid gwerin poblogaidd ac enwog Cymru i berfformio, yn binacl i’r holl ddarpariaeth Gwerin. 

Cynigir pecynnau ar gyfer noddwyr yr Ŵyl. Yn ogystal a chael enw eich cwmni ar restr noddwyr ein gwefan a chydnabyddiaeth ar gyfryngau cymdeithasol, dyma’r buddion o noddi’r Ŵyl:

Noddwr

£50
  • Cyfle i arddangos eich deunydd marchnata yn yr Ŵyl, e.e. baner / pop yps

Noddwr

£100
  • 1 tocyn mynediad i'r Ŵyl
  • Cyfle i arddangos eich deunydd marchnata yn yr Ŵyl, e.e. baner / pop yps

Noddwr

£250
  • 2 docyn mynediad i'r Ŵyl
  • 2 docyn bwyd / bar
  • Cyfle i arddangos eich deunydd marchnata yn yr Ŵyl, e.e. baner / pop yps

Noddwr Llwyfan

£500
  • 4 tocyn mynediad i'r Ŵyl
  • 4 tocyn bwyd / bar
  • Cyfle i arddangos eich deunydd marchnata yn yr Ŵyl, e.e. baner / pop yps
  • Eich logo ar dudalen flaen y wefan

Prif Noddwr

£1000
  • 8 tocyn mynediad i'r Ŵyl
  • 8 tocyn bwyd / bar
  • Cyfle i arddangos eich deunydd marchnata wrth y fynedfa ac ar ddau lwyfan yr Ŵyl, e.e. baner / pop yps
  • Eich logo ar dudalen flaen y wefan

Croeso i chi gysylltu gyda ni i drafod telerau pecyn arbennig pe dymunwch gyfrannu swm gwahanol i’r hyn a nodir uchod.

Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi, cysylltwch â ni.