Noddi
Hoffech chi noddi un o ddigwyddiadau Fel ‘Na Mai?
Mae Gŵyl Fel ‘Na Mai yn chwilio am noddwyr i gefnogi ein digwyddiadau cymunedol sy’n hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant. Rydym yn Sefydliad Elusennol Corfforedig ac yn grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig, brwdfrydig a gweithgar o ystod eang o oedran, sydd nid yn unig yn trefnu pob agwedd o’r ŵyl ond llawer o ddigwyddiadau diwylliant Cymreig eraill drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys trefnu’r rhestr berfformwyr, cysylltu â’r peirianwyr sain a golau, trefnu stondinau bwyd a pharatoi darpariaethau ar gyfer ardal y plant, sefydlu a datblygu ein gwefan, marchnata a hyrwyddo, gwneud cais am grantiau, codi pabell fawr a gazebos, codi ffensys a gosod toiledau cludadwy, addurno’r ardaloedd, mynychu cyfarfodydd pwyllgor llawn ac is-bwyllgor yn aml, sicrhau bod yr holl fesuriadau iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni yn ogystal â chysylltu â busnesau a sefydliadau lleol.
Cynhelir Gŵyl Fel ‘Na Mai yn flynyddol ym Mharc Gwynfryn, Crymych ar ddechrau mis Mai ac mae’n llwyddo i ddenu dros 1000 o bobl leol o bob oed. Gwahoddir artistiaid poblogaidd o’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru i berfformio a rhoddir cyfle i dalentau lleol hefyd.
Er mwyn rhoi anogaeth a hwb i bobol ifanc trefnir cystadleuaeth i unigolion a bandiau newydd ar ddydd miwsig Cymru ym mis Chwefror a bydd yr enillwyr yn cael cyfle i berfformio ar un o lwyfannau’r Ŵyl, ynghyd â gwyliau cerddorol eraill lleol. Cynhelir y gystadleuaeth yn flynyddol er cof am Richard a Wyn, y ddau frawd talentog o’r band Ail Symudiad a Kevin Davies o Gwmni recordio Fflach.
Mae gweithgareddau Gwerin Fel ‘Na Mai yn digwydd yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Y bwriad yw codi’r hen draddodiadau Cymreig trwy gynnal sesiynau canu a jamio mewn lleoliadau yn y gymuned ehangach ac atgyfodi traddodiad y Fari Lwyd a thraddodiadau gwerin eraill Cymru. Nid oes tâl mynediad ar gyfer y sesiynau hyn ac mae’r holl offerynwyr yn wirfoddolwyr. Unwaith y flwyddyn gwahoddir artistiaid gwerin Cymreig poblogaidd ac enwog i berfformio – hwn yn uchafbwynt i’r holl ddarpariaeth Werin.
Gofynnwn yn garedig i sefydliadau a chwmnïau busnes lleol helpu tuag at gostau’r gwahanol ddarpariaethau. Gyda’ch cefnogaeth a’ch nawdd, rydym yn bwriadu parhau i gynnal yr ŵyl a’r holl ddigwyddiadau eraill yn llwyddiannus am flynyddoedd i ddod.
Cynigir pecynnau ar gyfer noddwyr yr Ŵyl. Yn ogystal â chael enw eich cwmni ar restr noddwyr ein gwefan a chydnabyddiaeth ar gyfryngau cymdeithasol, dyma’r buddion o noddi Gŵyl Fel ‘Na Mai:
Gŵyl Fel ‘Na Mai is looking for sponsors to support our community events that promote our language and culture. We are a Charity Incorporated Organisation and a group of dedicated, active volunteers of a wide span age, many of whom are working full-time and who not only organise every aspect of the festival but many other Welsh culture events throughout the year. This includes organising the line up, liaising with the sound and light engineers, organising food stalls and preparing provisions for the children’s area, setting up and developing our website, marketing and promoting, applying for grants, erecting marquee and gazebos, putting up fences and positioning portable toilets, decorating the areas, attending frequent full committee and sub-committee meetings, ensure that all health and safety measurement are met as well as liaising with local business and institutions.
The Fel ‘Na Mai Festival is held annually at Parc Gwynfryn, Crymych at the beginning of May and succeeds to attract over 1000 local people of all ages. Popular artistes from the music scene in Wales are invited to perform and an opportunity is given to local talent also.
We are passionate about giving young people the opportunity to boost their musical careers and we organise a competition annually for new bands and individuals on Wales music day. The winners are rewarded with the opportunity to perform on one of the Gŵyl Fel ‘Na Mai festival’s stages and other local music festivals and gain a recording session by Fflach Ltd. The competition is held in memory of Richard and Wyn, the two talented brothers from the band Ail Symudiad and Kevin Davies from Fflach recording company.
Fel ‘Na Mai Folk activities take place regularly throughout the year. The intention is to raise the old Welsh traditions by holding sessions of singing and jamming in locations in the wider community and re-kindle the Fari Lwyd and some of the other Welsh folklore traditions. There is no admission charge for these sessions and all instrumentalists are volunteers. Once a year popular and famous Welsh folk artists are invited to perform – a pinnacle of all Folk provision.
We kindly ask local organisations and business companies to help towards the costs of the various provisions. With your support and sponsorship we intend to continue to run the festival and all the other events successfully for years to come.
Packages are offered for Festival sponsors. As well as having your company’s name on our website’s list of sponsors and recognition on social media, these are the benefits of sponsoring the Gŵyl Fel ‘Na Mai Festival:
Noddwr / Sponsor
- Cyfle i arddangos eich deunydd marchnata yn yr Ŵyl, e.e. baner / pop yps
- An opportunity to display your marketing materials in the festival e.g. banners, Pop ups
Noddwr / Sponsor
- 1 tocyn mynediad i'r Ŵyl
- Cyfle i arddangos eich deunydd marchnata yn yr Ŵyl, e.e. baner / pop yps
- 1 entry ticket to the festival
- An opportunity to display your marketing materials in the festival e.g. banners, Pop ups
Noddwr / Sponsor
- 2 docyn mynediad i'r Ŵyl
- 2 docyn bwyd / bar
- Cyfle i arddangos eich deunydd marchnata yn yr Ŵyl, e.e. baner / pop yps
- 2 entry ticket to the festival
- 2 bar food / bar voucher
- An opportunity to display your marketing materials in the festival e.g. banners, Pop ups
Noddwr Llwyfan / Stage Sponsor
- 4 tocyn mynediad i'r Ŵyl
- 4 tocyn bwyd / bar
- Cyfle i arddangos eich deunydd marchnata yn yr Ŵyl, e.e. baner / pop yps
- Eich logo ar dudalen flaen y wefan
- 4 entry tickets to the festival
- 4 food / bar vouchers
- An opportunity to display your marketing materials in the festival e.g. banners, Pop ups
- Your logo on the front page of our website
Prif Noddwr / Main Sponsor
- 8 tocyn mynediad i'r Ŵyl
- 8 tocyn bwyd / bar
- Cyfle i arddangos eich deunydd marchnata wrth y fynedfa ac ar ddau lwyfan yr Ŵyl, e.e. baner / pop yps
- Eich logo ar dudalen flaen y wefan
- 8 entry tickets for the festival
- 8 food / bar vouchers
- An opportunity to display your marketing materials in the festival e.g. banners, Pop ups
- Your logo on the front page of our website
Croeso i chi gysylltu gyda ni i drafod telerau pecyn arbennig pe dymunwch gyfrannu swm gwahanol i’r hyn a nodir uchod.
You are welcome to discuss special packet terms with us if you wish to sponsor a different sum to the above packages.
Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi, cysylltwch â ni.
Please contact us if you are interested in sponsoring. We would appreciate your support.