Skip to content

Cystadlaethau Cyfryngau Cymdeithasol – Gŵyl Fel ’Na Mai 2026

    Cystadlaethau Cyfryngau Cymdeithasol – Gŵyl Fel ’Na Mai 2026

    Wyt ti’n barod i fod yn greadigol? Dyma dy gyfle i hyrwyddo Gŵyl Fel ’Na Mai a chael cyfle i ennill gwobrau!

    Sut i gymryd rhan?

    Cystadleuaeth1️⃣
    Creu cyfres o bostiadau / storïau yn hyrwyddo Gŵyl Fel ’Na Mai ar Instagram / Facebook.
    Cystadleuaeth 2️⃣
    Creu Fideo / ‘Reels’ ar gyfer hyrwyddo’r ŵyl ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Syniadau posib:
    Fideos byr
    Lluniau creadigol
    Memes / Graffeg
    Unrhyw syniad creadigol arall!

    Syniadau ar gyfer y cynnwys:
    Pam wyt ti’n edrych ymlaen at yr ŵyl?
    Beth sy’n gwneud Gŵyl Fel ’Na Mai yn arbennig?
    Cerddoriaeth, ffrindiau ac hwyl yr ŵyl.
    Bandiau / Artistiaid / gweithgareddau eraill yr ŵyl.
    Fideo ‘countdown’ neu flog bach.

    Sicrhâ dy fod yn:
    Defnyddio’r hashtag swyddogol sef #FelNaMai.
    Tagio’r cyfrif swyddogol sef @Felnamai.

    Bydd angen i ti bostio dy gynnwys cyn 15ed Ebrill, naill ai yn uniongyrchol drwy gyfrif dy hun neu ei ddanfon draw atom ar ebost: [email protected]

    Gwobrau:
    🏆 Bydd y postiadau buddugol yn ennill:

    1. Tocyn ‘VIP’ i’r Ŵyl
    2. Cyfle i greu cynnwys yn ystod y dydd
    3. Cyfle i gael dy waith wedi’i rannu ar sianeli swyddogol yr ŵyl

    Rheolau:
    Rhaid i’r cynnwys fod yn briodol, yn barchus ac yn y Gymraeg.
    Rhaid i’r cyfrif fod yn gyhoeddus fel y gallwn weld y post.
    Gall pob person gyflwyno mwy nag un post

    📢 Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.