Skip to content

Gŵyl Fel ‘Na Mai 2026


    Gŵyl Fel ‘Na Mai yn dathlu pum mlynedd gyda lein-yp arbennig – EDEN i gloi’r diwrnod
    Crymych, Parc Gwynfryn – 2 Mai 2026 – Mae trefnwyr Gŵyl Fel ‘Na Mai yn falch iawn o gyhoeddi ein lein-yp ar gyfer 2026 wrth i ni ddathlu pumed pen-blwydd yr Ŵyl gydag artistiaid cyffrous iawn eleni eto yn perfformio.
    Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y bydd Eden, un o grwpiau pop mwyaf eiconig Cymru yn cloi’r diwrnod eleni. Mae ei dychweliad diweddar a’i halbwm newydd wedi tanio brwdfrydedd newydd ymhlith carfan eang o gefnogwyr ac yn berffaith ar gyfer dathlu pen-blwydd arbennig yr Ŵyl.
    Yn ymuno ag Eden mae artistiaid eraill sy’n cynrychioli cyfoeth a chryfder cerddoriaeth Cymraeg heddiw: Bwncath (un o hoff fandiau’r Ŵyl, sy’n dychwelyd unwaith eto), Ynys, Ar Log, Lowri Evans, Dros Dro, Aeron Pughe a Dewin.
    Am y tro cyntaf eleni byddwn yn cynnal sesiwn Canu Oci i gyfeiliant Dafydd Panrhod a’r band. Cyfle i bawb godi canu a chodi hwyl.
    Bydd yr Wyl hefyd, yn ôl yr arfer yn rhoi platfform i dalentau newydd gyda pherfformiadau gan Enillwyr Gwobrau Coffa Richard a Wyn Ail Symudiad — cystadleuaeth flynyddol sy’n coroni’r band gorau a’r artist unigol gorau.
    Yn ogystal, byddwn yn croesawu corau o Ysgol Uwchradd Aberteifi ac Ysgol Bro Preseli i roi eitemau yn yr Ŵyl
    “Rydyn ni’n hynod falch o gyrraedd ein pumed pen-blwydd,” meddai’r trefnwyr. “Mae’r Ŵyl wedi datblygu a thyfu bob blwyddyn, diolch i’n cynulleidfa ffyddlon, y gwirfoddolwyr gweithgar a chefnogaeth barhaus y gymuned. Mae’r lein-yp eleni’n dathlu’r daith ac yn parhau i gynnig arlwy amrywiol o gerddoriaeth draddodiadol a chyfoes Gymraeg sydd yn apelio at ystod eang o oed.”

    Tocynnau:
    — Gwerthiant cynnar i danysgrifwyr y cylchlythyr: 1 Rhagfyr am 10:00
    — Gwerthiant i’r cyhoedd: 5 Rhagfyr am 10:00


    Gŵyl Fel ‘Na Mai celebrates its fifth year with a standout lineup – EDEN to headline the day.
    Crymych, Parc Gwynfryn – 2 May 2026 — Gŵyl Fel ‘Na Mai is proud to announce its 2026 lineup as the festival marks its fifth anniversary with a strong and exciting programme.
    Eden, one of Wales’ most iconic pop groups, will headline the day, bringing their renewed energy and recent musical resurgence to this milestone edition of the festival.
    The lineup showcases a rich mix of Welsh talent, featuring: Bwncath (a returning festival favourite), Ynys, Ar Log, Lowri Evans, Dros Dro, Aeron Pughe and Dewin.
    For the first time this year, a session of Canu Oci ( karaoke ) will be held at the festival, to the accompaniment of Dafydd Pantrhod and band – an opportunity for everyone to partake in the singing.
    Back again on this year’s programme is the inclusion of winners from the Gwobrau Coffa Richard a Wyn Ail Symudiad – an annual talent competition that crowns both Best Band and Best Solo Act and will perform on one of the two stages of the festival.
    Choirs from Ysgol Uwchradd Aberteifi and Ysgol Bro Preseli will also join the bill, celebrating young local talent and the strong Welsh music culture of the area.
    “We’re incredibly proud to reach our fifth year,” said the organisers. “The festival has grown year after year thanks to our loyal audience, the active volunteers and the continued support of the community. This year’s lineup reflects that journey, blending tradition, contemporary energy, and a celebration of Welsh music and culture.”

    Tickets:
    — Newsletter subscribers pre-sale: 1 December at 10:00
    — General sale: 5 December at 10:00